Tripiau

Gellir archebu'r teithiau wrth gofrestru.

Dyffryn Llangollen: Tirwedd y Rhamantwyr

Arweinwyr:  Yr Athro Nancy Edwards; Dr Owain Jones.

Peth gwaith cerdded, felly mae angen esgidiau addas.

Cyhoeddodd Thomas Pennant Tour in North Wales fel rhan o'i A Tour in Wales (1778-83), a daeth yn brif arweinlyfr i deithwyr cynnar a ddeuai i Ddyffryn Llangollen i chwilio am yr hardd a'r ysblennydd. Bydd ein taith yn canolbwyntio ar y prif fannau yr ymwelai’r teithwyr â nhw yn y dirwedd ramantus hon, ac ar y straeon y tu ôl iddynt.

Teithiwn i Langollen ar hyd y ffordd hanesyddol a adeiladwyd gan Thomas Telford trwy’r gogledd yn y 1820au. Cawn olwg ar Blas Newydd, y tŷ lle bu Merched Llangollen – y Fonesig Eleanor Butler a Sarah Ponsonby – yn byw mewn 'ymneilltuad' Rousseau’aidd ar ôl iddynt ffoi o Iwerddon. Croesawyd ganddynt i Blas Newydd nifer o deithwyr enwog, gan gynnwys Syr Walter Scott a Mrs Thrale. Ar ôl hyn byddwn yn ymweld â’r fryngaer ysblennydd, Castell Dinas Brân, man lle'r adeiladwyd castell yn ddiweddarach gan Madog ap Gruffudd, tywysog gogledd Powys.

Ar ôl cinio cawn gyfle i weld adfeilion abaty Sistersaidd Glyn y Groes (Valle Crucis), a sefydlwyd gan Madog tua 1201. Ysgrifennwyd yma rai o’r croniclau Cymreig, a bu’n gartref i'r bardd Gutun Owain ar ddiwedd y bymthegfed ganrif. Peintiodd yr arlunydd ifanc J.W.M. Turner yr Abaty yn dilyn taith i Ogledd Cymru yn 1794, pan dynnodd lun hefyd o Golofn Eliseg. Wrth ymweld â'r Golofn cawn olrhain hanes gwreiddiol y safle fel carnedd gladdu o'r Oes Efydd Gynnar (fe’i hailgloddiwyd yn rhannol yn ddiweddar); cafodd ei defnyddio o’r newydd, efallai fel safle cynulliad canoloesol cynnar, pan godwyd yma yn y nawfed ganrif groes ag arni arysgrif hir yn Lladin. Dymchwelwyd y groes yn ystod y Rhyfel Cartref ond fe'i hailgodwyd fel colofn ar y twmpath yn 1779, fel rhan o dirwedd ramantus wedi'i hail-greu. Teithiwn yn ôl drwy Fwlch yr Oernant.

Cost: £40

-->

Cestyll y Tywysogion

Arweinwyr:  Yr Athro Huw Pryce a Dr Euryn Roberts

Rhywfaint o gerdded gweddol egnïol, gan gynnwys i fyny gelltydd. Llwybrau serth ac anwastad yn Ninas Emrys a Chastell Dolwyddelan. Mae esgidiau da yn hanfodol.

Bydd y daith hon yn ymweld â thri o gestyll Cymreig brodorol yng nghanol Eryri: Dinas Emrys, Dolwyddelan a Dolbadarn.

Mae Dinas Emrys yn fryn creigiog trawiadol yn Nant Gwynant. Adeiladwyd bryngaer yno yn ystod yr Oes Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig ond parhaodd i gael ei ddefnyddio yn y bumed i'r seithfed ganrif. Erbyn dechrau'r nawfed ganrif roedd wedi dod yn rhan o chwedloniaeth ac mae'n gysylltiedig â 'Chwedl Emrys' a ymddangosodd yn yr Historia Brittonum o waith Nennius. Yn ddiweddarach codwyd tŵr carreg bychan (gwnaed gwaith cadwraeth arno'n ddiweddar) ar y safle. Efallai iddo gael ei godi at ddiwedd y ddeuddegfed ganrif gan un o'r rhai a oedd yn ymgiprys am dywysogaeth Gwynedd yn dilyn marw Owain Gwynedd. Ar ôl cinio ym Meddgelert byddwn yn mynd ymlaen i Gastell Dolwyddelan, a ddechreuwyd gan Lywelyn Fawr (m. 1240), ac sydd mewn lleoliad dramatig uwchlaw dyffryn Lledr. Byddwn yn galw hefyd yn Eglwys Dolwyddelan gyda'i chloch ganoloesol gynnar. Ein cyrchfan olaf fydd Castell Dolbadarn, sy'n edrych dros Lynnoedd Padarn a Peris ger Llanberis. Adeiladwyd hwn hefyd gan Lywelyn Fawr, ac yno dywedir i'w ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd (m. 1282), garcharu ei frawd, Owain, ar ôl ei drechu ym Mrwydr Bryn Derwin yn 1255. Darlunnir y digwyddiad hwnnw yn narlun J.W.M. Turner Dolbadern Castle (1800).

Cost: £35

Biwmares ac Afon Menai

Arweinydd: Dr Karen Pollock

Ychydig bach o gerdded hawdd, a thaith ar gwch (heblaw yn achos tywydd gwael iawn). Mae grisiau (a chanllaw) yn arwain at Eglwys Penmon.

Nod y daith hon yw cael mwynhau morlun dwyreiniol y Fenai a'r prif henebion canoloesol sy'n gysylltiedig â de-ddwyrain Ynys Môn. Ymhlith y rhain y mae Biwmares, ei chastell (Safle Treftadaeth Byd UNESCO), ei heglwys, a mynachlog Penmon.

Awn ar gwch o Fiwmares o amgylch Ynys Seiriol (Priestholm, Ynys Lannog), safle cell meudwy a grybwyllir gan Gerallt Gymro yn ei gyfrol Taith drwy Gymru (1191). Mae’r ynys hefyd yn enwog am ei hadar (http://www.puffinisland.org.uk/meet-the-birds). Roedd de-ddwyrain Ynys Môn, ar y llwybr rhwng Dulyn a Chaer, yn drwm dan ddylanwadau Gwyddelig-Llychlynaidd, a gwelir ôl y rhain o hyd mewn enwau lleoedd. Ymwelwn â Chastell Biwmares, a adeiladwyd i Edward I gan Meistr James o St George yn dilyn gwrthryfel Cymreig yn 1294 ond na orffenwyd erioed. Adeiladwyd y castell ar gynllun consentrig trawiadol, a gwelir yma weddillion doc i longau. Adeiladwyd Eglwys y Santes Fair a Sant Nicholas yn wreiddiol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a cheir ynddi nifer o henebion angladdol nodedig, gan gynnwys arch garreg dybiedig Joan (Siwan), merch y Brenin John a gwraig Llywelyn Fawr; a bedd alabastr o tua 1490 lle y claddwyd William ac Elen Buckley. Ar ôl cinio awn i Eglwys Seiriol, Penmon, safle mynachlog ganoloesol gynnar yr ymosododd y Llychlynwyr arni yn 971. Mae yno eglwys Romanésg hardd, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg dan nawdd Owain Gwynedd, croesau canoloesol cynnar a ffynnon sanctaidd. Yn ddiweddarach sefydlwyd yma briordy Awstinaidd a gysylltir â’r feudwyfa ar Ynys Seiriol.

Cost: £50

Llên a Llechi

Arweinydd: Yr Athro Angharad Price

Mae'r daith hon yn datgelu'r berthynas agos rhwng cymunedau llechi Gwynedd a rhai o brif ffigyrau llenyddol Cymru'r ugeinfed ganrif.

Dechreua'r daith ym mhentref genedigol W. J. Gruffydd (1881-1954), Bethel. Ac yntau wedi ei fagu mewn cymuned Gymraeg, ryddfrydol, anghydffurfiol a oedd yn nodweddiadol o froydd llechi gogledd-orllewin Cymru, gwnaeth Gruffydd enw iddo'i hun yn gyntaf fel bardd ifanc Rhamantaidd. Yn dilyn y Rhyfel Mawr fe'i penodwyd yn Athro yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yma y sefydlodd 'Y Llenor', y cylchgrawn y bu'n Olygydd arno trwy gydol ei fywyd. Byddwn yn ymweld â mynwent Llanddeiniolen i weld  lle y'i claddwyd yn ogystal â'r ywen a anfarwolwyd yn ei gerdd adnabyddus, 'Ywen Llanddeiniolen'. Cawn gip ar ei gartref, 'Gorffwysfa', ym Methel ei hun a gobeithir gallu ymweld â'r capel Annibynnol a fu'n ddylanwad creiddiol arno - capel sydd ar werth ar hyn o bryd.

Awn yn ei blaenau wedyn i bentref Rhosgadfan lle y magwyd Kate Roberts (1891-1985), awdures fwyaf adnabyddus Cymru.  Mae 'Cae'r Gors' bellach dan ofalaeth CADW, a'i du mewn wedi ei gadw'n debyg i'r hyn ydoedd adeg plentyndod Kate Roberts - cyfnod a bortreadwyd mor gofiadwy ganddi yn ei straeon byrion a'i hunangofiant, 'Y Lôn Wen'. Os bydd y tywydd yn caniatáu, cawn ddarlleniad o un o'i straeon enwocaf, 'Te yn y Grug', yng ngardd y bwthyn, gyda'r chwareli llechi yn y cefndir a  golygfeydd tua Môn, Afon Menai a Chaernarfon islaw.

Cawn ginio o gawl a brechdanau yng ngwinllan Pant Du ym Mhenygroes a darganfod sut y mae'r perchnogion wedi gwneud defnydd o wastraff llechi i'w cynorthwyo yn y gwaith o dyfu gwinwydd i greu eu gwinoedd blasus. Cynhyrchir seidr yma hefyd a gellir blasu'r cynnyrch yn y caffi.

Ar ôl cinio byddwn yn teithio trwy Ddyffryn Nantlle (sy'n gysylltiedig â phedwaredd gainc y Mabinogi) tuag at Ryd-ddu wrth droed yr Wyddfa. Yma, yn Nhy'r Ysgol, y ganed T. H. Parry-Williams (1887-1975), y bardd a'r ysgrifwr y gellir ei ystyried yn Fodernydd cyntaf Cymru. Byddwn yn oedi am ychydig yng nghyffiniau ei gartref i werthfawrogi'r dirwedd foel a dramatig, yn ogystal â'r olion chwarelyddol a ysbrydolodd rai o'i gerddi a'i ysgrifau mwyaf adnabyddus.

I gloi, awn yn ei blaenau trwy Barc Cenedlaethol Eryri tuag at yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis lle bydd y Cyfarwyddwr, Dr Dafydd Roberts, yn ein tywys trwy hanes chwarelydda yn yr ardal a hefyd yn sôn am y cais cyffrous i sicrhau statws 'Safle Treftadaeth y Byd' i chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru.

Bwriedir dychwelyd i Fangor erbyn tua 5 o'r gloch.

Cost: £35