Hanes y Gyngres
Mae hi’n drigain mlynedd yn union ers i Brian Ó Cuív drefnu’r Gyngres Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd gyntaf yn Nulyn ym 1959. Ers y dyddiau cynnar hynny mae’r ddisgyblaeth wedi gweld twf aruthrol, a thyfodd yr achlysur mewn modd tebyg: erbyn hyn hi yw’r gynhadledd academaidd fwyaf sy’n rhoi ei holl sylw i Astudiaethau Celtaidd. Cynhaliwyd cynulliadau eraill yng Nghaerdydd (1963), Caeredin (1967), Roazhon (1971), Pennsans (1975), Gaillimh (1979), Rhydychen (1983), Abertawe (1987), Paris (1991), Caeredin (1995), Corcaigh (1999), Aberystwyth (2003), Bonn (2007), Maigh Nuad (2011) a Glaschú (2015).
A hithau’n cadw’n driw i amcanion y cyfarfod cyntaf ym 1959, mae’r Gyngres yn parhau i gynnig cyfle digymar i bawb sy’n gweithio yn y maes, o’r ysgolheigion mwyaf profiadol i fyfyrwyr ymchwil sy’n cychwyn ar eu taith, i gyfarfod i rannu a thrafod ffrwyth eu hymchwil. Fel yn achos cyfarfodydd blaenorol, mae Cyngres Bangor yn profi bod hwn yn faes byd-eang go iawn: bydd ysgolheigion yn cynrychioli’r ieithoedd Celtaidd bob un, a hwythau’n dod o nid llai na 25 o wledydd, gan gynrychioli dros gant o sefydliadau academaidd.