Telerau ac Amodau Cyffredinol

  1. Cofrestru a Thalu
    1. Os byddwch yn cofrestru ar-lein mi wnawn ni ystyried hynny’n archebiad pendant a’ch bod chi’n derbyn y telerau a’r amodau yma, ond ni chaiff yr archeb ei chadarnhau nes derbyniwn y taliad llawn. Gallwn dderbyn taliad gyda cherdyn credyd ar gyfer pob agwedd ar y Gyngres. Mewn achosion arbennig, medrwn dderbyn taliad trwy drosglwyddiad banc. Os ydych chi’n talu trwy drosglwyddiad banc, gwnewch yn siŵr eich bod yn talu am unrhyw ffioedd sydd ynglŷn â’r trosglwyddiad banc.
    2. Mae disgownt y Cynnig Cynnar ar gyfer archebion lle derbyniwn y taliad cyn (12yp, 17 Ebrill) Codir ffi’r gynhadledd yn llawn ar bob cofrestriad a thaliad ar ôl y dyddiad hwnnw.
  2. Canslo/Ad-dalu
    1. Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy’n dymuno canslo archeb hysbysu’r trefnwyr yn ysgrifenedig. O ganslo cofrestriad ar 20 Mai 2019 neu cyn hynny bydd ad-daliad o 50% ar y ffi gofrestru, ynghyd ag unrhyw ffioedd a dalwyd am Neuaddau Preswyl a chiniawau.
    2. Ni fydd ad-daliadau am ganslo ar ôl 20 Mai 2019. Ni allwn roi ad-daliadau am deithiau/gwibdeithiau.
    3. Ni roddwn ad-daliadau am beidio ag ymbresenoli.
    4. Mae’n annhebygol y caiff y Gyngres ei chanslo, ond os caiff hi mi wnaiff y trefnwyr ad-dalu’r holl ffioedd cofrestru’n llawn, ond y maent trwy hyn yn gwadu unrhyw atebolrwydd pellach.
    5. Os caiff y Gyngres ei chynnal ond ni allwch chi fod yn bresennol, boed am resymau a oedd o fewn eich rheolaeth neu beidio, bydd yr amodau uchod yn berthnasol lle mae canslo yn y cwestiwn.
  3. Newidiadau i’r Gyngres ac Addasu’r Rhaglen
    1. Mae’n bosib y bydd angen newid cynnwys ac amseriad y rhaglen, y siaradwyr, y dyddiadau neu’r lleoliad am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr.
    2. Gellir cyflwyno newidiadau i’r rhaglen ar unrhyw adeg ac mae’r Trefnwyr yn cadw’r hawl i ymwrthod â phapurau cyfranwyr nad ydynt yn cwblhau’r cofrestriad erbyn 31/5/19 fan bellaf.
  4. Preifatrwydd
    1. Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Bydd pob data personol a gyflenwir yn cael ei ddefnyddio a’i storio’n unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
    2. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gawn ni gennych chi i gysylltu â chi gyda gwybodaeth a newyddion ynglŷn â’r Gyngres hon yn unig. Wnawn ni ddim rhannu eich manylion chi gyda thrydydd parti. Fodd bynnag, efallai y byddwn am gysylltu â chi i hysbysebu’r Gyngres nesaf i chi.
    3. Cewch ddewis peidio â derbyn dim hysbysiadau at y dyfodol ar unrhyw adeg.
  5. Cyhoeddusrwydd, Ffilmio a ffotograffau
    1. Cofiwch y caiff ffotograffau eu tynnu trwy gydol y Gyngres a gellir eu defnyddio at ddibenion marchnata yn y dyfodol. Trwy dderbyn y telerau a’r amodau, rydych chi’n cadarnhau eich bod yn ymwybodol y gellid tynnu lluniau ohonoch a bod modd defnyddio’r lluniau hynny yn y dyfodol yn neunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd Prifysgol Bangor.
    2. Yn y Gyngres bydd rhai wrthi’n ddyfal yn postio ar y Cyfryngau Cymdeithasol (e.e. trydar) ac mae hynny i’w ddisgwyl yn ystod eich papur chi, oni bai eich bod yn gofyn yn wahanol fel arall. Bydd trefnydd pob sesiwn yn cysylltu â’r cyflwynwyr i drafod hyn.
    3. I’r rhai sy’n defnyddio Twitter yn ystod y Gyngres, awgrymwn y canllawiau canlynol:
      1. Defnyddiwch yr hashtag #ICCS2019 i helpu eraill ddod o hyd i drydariadau perthnasol.
      2. Ceisiwch gynnwys enw Trydar (e.e., @Cyngres2) y cyflwynwyr yr ydych yn trydaru amdanynt.
      3. Cyn postio unrhyw luniau a dynnwyd yn ystod sesiwn, mae’n arfer da gofyn am ganiatâd y siaradwr/siaradwyr. Gochelwch rhag cyflwyno’r siaradwyr mewn modd anghynnes. Peidiwch â phostio lluniau o eraill na fyddech chi wedi eu postio ohonoch chi eich hun.
  6. Hawlfraint a Hawlfraint Ddeallusol Bydd llawer o’r deunydd a gyflwynir ac a ddosberthir yn ystod sesiynau’r Gyngres (e.e. taflenni, sleidiau, sy’n cynnwys syniadau) yn amodol ar hawlfraint sy’n eiddo i’r cyflwynydd. Rhaid peidio â defnyddio, dosbarthu, addasu na chyhoeddi deunyddiau o’r fath heb gydnabyddiaeth a chaniatâd llawn y perchennog.
  7. Atebolrwydd
    1. Eu safbwyntiau nhw eu hunain yw safbwyntiau’r siaradwyr, y noddwyr a/neu’r arddangoswyr.
    2. Ni allwn dderbyn atebolrwydd am unrhyw gyngor a roddir, nac am farn a fynegir gan unrhyw siaradwr, noddwr a/neu arddangosydd yn y Gyngres neu mewn unrhyw ddeunydd a ddarperir gan y siaradwyr i’r cynrychiolwyr.
  8. Plant
    1. Mae croeso i blant o dan 16 oed yn y Gyngres, ar yr amod bod oedolyn gyda nhw, eu bod yn ymddwyn yn briodol a bod goruchwyliaeth lawn drostynt bob amser.
    2. Nid yw Prifysgol Bangor na’r Gyngres yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ofal plant nac adloniant.
    3. Nid oes ffi gofrestru am blant sy’n dod gydag oedolion, ond bydd tâl am ginio, teithiau, llety ac ati. Cysylltwch â ni i gadarnhau manylion unrhyw blant.
  9. Bathodynnau’r Gynhadledd
    1. Rhaid gwisgo’r bathodyn a’r enw arno bob amser yn ystod digwyddiadau’r Gyngres.
    2. Os nad ydych chi’n gwisgo’r bathodyn mae’n bosib y cewch eich herio, a chael gwrthod mynediad i’r rhannau hynny o’r Brifysgol lle mae’r Gyngres yn cael ei chynnal.
    3. Os bydd cynrychiolydd yn colli, neu’n anghofio ei fathodyn, bydd modd cael un arall.
  10. Diogelwch
    1. Bydd y Brifysgol yn gwneud pop ymdrech i sicrhau bod yr ymwelwyr a’u heiddo’n ddiogel. Mae disgwyl i gyfranogwyr arfer pob gofal rhesymol. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo coll na difrod i eiddo.
  11. Cyffredinol
    1. Caiff y Brifysgol newid, addasu neu ddileu unrhyw un neu fwy o’r telerau uchod (neu ychwanegu atynt), a hynny ar unrhyw adeg. Os bydd un neu ragor o’r amodau sydd yn y Telerau ac Amodau hyn yn annilys neu’n mynd yn annilys, bydd yr amodau sy’n weddill yn parhau i fod yn ddilys a chymwys. Mae’r Telerau ac Amodau yma’n berthnasol i bawb sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad hwn, gan gynnwys y siaradwyr, y noddwyr a’r arddangoswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 05/03/19 fersiwn 1.