Bangor a’r ardal

Saif Prifysgol Bangor rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn sir Gwynedd, a enwyd ar ôl y deyrnas ganoloesol annibynnol olaf. Yn unigryw yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol, mae’n debyg mai hwn yw un o’r lleoliadau prifysgol harddaf ym Mhrydain gyfan: mae’r golygfeydd ysblennydd o’r mynyddoedd, yr arfordir a’r môr wedi ysbrydoli beirdd i gyfansoddi rhai o gerddi mwyaf cofiadwy’r canrifoedd.

Bangor yw un o ddinasoedd lleiaf a hynaf Prydain: mae ei gwreiddiau hynafol yn mynd yn ôl i’r 6ed ganrif, pan sefydlodd Sant Deiniol fynachlog ar safle’r eglwys gadeiriol bresennol (yr hynaf yng Nghymru a Phrydain). Er bod natur wledig Bangor yn briodol iawn ar gyfer myfyrio ysgolheigaidd, mae’r ddinas wedi’i chysylltu’n dda â phrif ganolfannau metropolitan Prydain, ac mae wedi bod yn borth strategol i Iwerddon ers amser maith. Yn ninas Bangor meddir y ceir y Stryd Fawr hiraf yng Nghymru (a Phrydain), ond pwysicach o lawer na hynny yw amrywiaeth diwylliannol y ddinas a’r lle amlwg a roddir yno i’r iaith Gymraeg, a siaredir fel iaith gyntaf gan fwyafrif poblogaeth Gwynedd.

Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchio’n briodol iawn yn ansawdd a maint ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae tua 70% o staff y brifysgol yn siarad Cymraeg (mae llawer ohonynt wedi dysgu’r iaith yma, gan fanteisio ar yr hyfforddiant rhad ac am ddim a ddarperir), a chyflawnir tua 40% o’r holl addysgu cyfrwng Cymraeg trydydd-lefel yng Nghymru yma. Mae polisi iaith y brifysgol yn sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael hawliau cyfartal ar bob lefel o weinyddiaeth ac ymarfer. Mae tref Caernarfon gerllaw yn enwog oherwydd castell canoloesol Edward I ond, yn llawer pwysicach, mae’n dref lle mae tua 80% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Arwydd arall o fywiogrwydd y Gymraeg yn yr ardal yw’r ffaith mai Cyngor Sir Gwynedd yn sicr yw’r unig awdurdod unedol yn y byd sy’n defnyddio iaith Celtaidd fel ei unig iaith weithredu fewnol.

John Morris-Jones, un o ysgolheigion pwysicaf Cymru a bardd o fri, oedd Athro cyntaf y Gymraeg ym Mangor, ac un o’i fyfyrwyr enwocaf ar ddechrau’r ugeinfed ganrif oedd Kate Roberts, y nofelydd a’r awdur straeon byrion a adwaenir gan lawer fel Brenhines ein Llên. Mae’r lle canolog a roddir i ysgrifennu creadigol ym Mangor yn parhau heddiw: ymhlith y staff yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ceir rhai o’r beirdd a’r nofelwyr mwyaf blaenllaw sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg, ac mae eu gwaith beirniadol a damcaniaethol hefyd o bwysigrwydd sylweddol.

Ysgolion academaidd eraill sy’n gweithio mewn meysydd sy’n berthnasol i Astudiaethau Celtaidd ehangach yw’r Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, lle gall myfyrwyr astudio ac ymchwilio i agweddau ar gerddoriaeth Gymreig o’r oesoedd canol ymlaen; yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, y mae ei chryfderau’n cynnwys hanes Cymru yn y cyfnod modern a chanoloesol, ac Archaeoleg Geltaidd; a’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, y mae ei chyrsiau ar iaith a diwylliant Galisia yn berthnasol iawn i hunaniaethau Celtaidd modern (Canolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru).

Mae Canolfannau Ymchwil eraill ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Canolfan Astudio R.S. Thomas, Canolfan Ymchwil Cymru, Canolfan Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Mae pob un o’r Canolfannau Ymchwil yn gysylltiedig ag Ysgolion Academaidd sy’n cynnig ystod o gyrsiau isradd ac ôl-radd, sy’n berthnasol i Astudiaethau Celtaidd:

Ymhlith y cyrsiau BA: CymraegCymraeg i DdechreuwyrHanes CymruHanes Cymru gydag Archaeoleg

Ymhlith y cyrsiau MA: Cymraeg Cymraeg/Astudiaethau CeltaiddY CeltiaidArchaeoleg GeltaiddAstudiaethau ArthuraiddAstudiaethau Canoloesol - Hanes CymruAstudiaethau Cyfieithu

Gellir dilyn astudiaethau PhD ym mhob maes perthnasol.