Lleoliad y gyngres

Cynhelir yr XVIed Cyngres Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio

Cyfarwyddiadau

Mae'n hawdd iawn dod o hyd i Brifysgol Bangor.

Cyfeiriad:  Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG

Ar drên

Gellir cerdded o Orsaf Reilffordd Bangor i Brif Adeilad y Celfyddydau mewn tua 10 munud.  Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn galw ym Mangor o orsafoedd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru, Caer, Manceinion, Caerdydd, Birmingham a Llundain. Cliciwch yma i gynllunio eich taith.

Ar Fws

Gorsaf Fysus Cloc Bangor yw’r arhosfa fysus agosaf, rhyw 10 munud o daith gerdded o Brif Adeilad y Celfyddydau.  Cliciwch yma am yr amseroedd bws diweddaraf.

Mewn car

Os ydych chi’n teithio o’r dwyrain (Llandudno, Caer, Lerpwl, Manceinion), dylech adael yr A55 ar Gyffordd 11, gan ddilyn arwyddion am yr A5 / ‘Bangor/Betws-y-Coed’. O gyfeiriad y gorllewin (yn teithio o Ynys Môn), defnyddiwch Gyffordd 9, gan ddilyn arwyddion am yr A487 ‘Bangor/Caernarfon’. Yn y ddau achos, bydd gennych wedyn ryw 3.5 milltir i fynd cyn cyrraedd Bangor. Os ydych chi’n teithio o’r de, dilynwch yr A487, ac arwyddion i Gaernarfon/Bangor.

Ar awyren

Meysydd awyr rhyngwladol John Lennon Lerpwl a  Manceinion yw’r rhai agosaf.

Ar y Môr

 Caergybi, ar Ynys Môn, yw’r porthladd agosaf, tua 25 milltir o Fangor ar yr A55.  Mae gwasanaethau fferi ar gael gan Irish Ferries a Stena Line, yn teithio rhwng Porthladd Dulyn a Chaergybi.