Newyddion Diweddaraf

Y Celtiaid ar eu ffordd! Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu Cyngres Ryngwladol

Rhwng 22 – 26 Gorffennaf, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, gyda siaradwyr gwadd o bob cwr o'r byd yn cyfrannu at raglen yn llawn trafodaethau, seminarau a theithiau maes. Mae'r Gyngres, a gynhelir unwaith bob pedair blynedd, yn brif fforwm rhyngwladol ar gyfer arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd a bydd ymweliad cyntaf y Gyngres â Bangor yn ddigwyddiad nodedig i'r sefydliad. Hyd yn hyn, mae cynrychiolwyr o ddim llai na 25 o wledydd, yn cynrychioli dros 100 o gyrff a sefydliadau academaidd, wedi cofrestru i fynychu'r Gyngres ym Mangor. Mae’r Gyngres ym Mangor wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2019

Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Cofrestru'n agor ar 3 Ebrill 2019!

Bydd cofrestru ar gyfer yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn agor yfory, 3 Ebrill 2019. Edrychwn ymlaen at glywed gan y bron i bedwar cant o gynadleddwyr a fydd yn cyflwyno papurau!

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2019