Prif Siaradwyr

The Hounds of Love: Courtship and Conception in Irish Bardic Poetry

Bardic poetry has often been portrayed as a genre that is entirely resistant to change and the bardic poet has even been depicted as a figure whose mindset differed little from that of the pagan priest or druid. It is asserted that this extreme conservatism is manifest in seemingly arcane beliefs such as the notion of the prince being married to his kingdom, the depiction of the poet and his prince as lovers and the entitlement of the poet to share his lord’s bed. This paper will argue that such a characterization ignores the social and political significance of these concepts and overlooks the prevalence of corresponding ideas in late medieval and early modern Europe. Particular attention will be paid to a bardic poem that throws much light on the poet-patron relationship, offers insights into the notion of bardic courtship and presents a novel view of how bardic poetry itself is conceived and created. The contention is that poems such as this must be read within their contemporary cultural and intellectual milieu rather than being seen as shadows of a dim pre-Christian past.

Ailbhe Ó Corráin

Ailbhe Ó Corráin

Ganed Ailbhe Ó Corráin ym Melffast a’i addysgu yng Ngholeg Sant Malachi a Phrifysgol y Frenhines Belffast. Y mae’n Athro Emeritus mewn Gwyddeleg ym Mhrifysgol Wlster ac yn gyn-Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Gwyddeleg ac Astudiaethau Celtaidd, Doire (Derry). Bu’n darlithio gynt mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Uppsala, Sweden (1980–7 a 1989–94) ac mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Bonn, Yr Almaen (1987–9). Cafodd statws Docent ym Mhrifysgol Uppsala yn 1992, ac fe’i gwnaed yn Ymchwilydd Hyglod Hŷn yn Wlster yn 2009; bu hefyd yn Athro ar Ymweliad yn Uppsala rhwng 2008 a 2012. Y mae wedi cyhoeddi ar amryfal agweddau ar yr iaith Wyddeleg a’i llenyddiaeth, yn arbennig ym meysydd cystrawen, semanteg a barddoniaeth Wyddeleg Glasurol. Arweiniodd ei Ddarlith Marstrander ar Giolla Brighde Ó hEódhasa (Oslo 2012) at gyhoeddi The Pearl of the Kingdom: A Study of A fhir léghtha an leabhráin bhig by Giolla Brighde Ó hEódhasa (2013) ac fe’i dilynwyd gan ddau fonograff arall ynghylch yr un bardd, The Light of the Universe: Poems of Friendship and Consolation (2014) a The Dark Cave and the Divine Light: Verses on the Human Condition (2016). Ymhlith ei erthyglau arloesol ar iaith ac ieithyddiaeth y mae ‘On the Syntax and Semantics of Expressions of Being in Early Irish’ (1997); ‘Spatial Perception and the Development of Grammatical Categories in Irish’ (1997); Aspects of Voice in the Grammatical Structure of Irish’ (2001); ‘On the Evolution of Verbal Aspect in Insular Celtic’ (2013) a ‘Rudimenta Grammaticae Hibernicae’ (2017). Ef yw prif olygydd Studia Celtica Upsaliensia, Is-lywydd Societas Celtologica Nordica a chyn-lywydd yr European Society for Irish Studies. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli geiriadur Gwyddeleg hanesyddol Academi Frenhinol Iwerddon ac o bwyllgor yr Academi, Coiste Léann na Gaeilge, Litríocht na Gaeilge agus na gCultúr Ceilteach. Ef yw Cadeirydd éigse Cholm Cille a bu gynt yn aelod o Fwrdd Rheoli Ysgol Astudiaethau Celtaidd Canolfan Uwchefrydiau Dulyn.


Writer as righter? Irish-language poetry and human rights ideals

Drawing on Seamus Heaney’s espousal of the “writer as righter” (2010), this paper will discuss the role of the poet in an interconnected world. Literary devices such as metaphor, allegory and metonymy are regularly employed to discuss human rights issues and concerns. The potential for use and misuse by those who wish to inform public opinion, obliges us to deepen our understanding and appreciation of literary modes of expression that can cultivate transnational solidarity or conversely, arouse suspicion of ‘dangerous others’ and incite transnational discord and conflict. What role does the contemporary Irish-language poet play in this context?

Rióna Ní Fhrighil

Rióna Ní Fhrighil

Mae Rióna’n ddarlithydd mewn llenyddiaeth Wyddeleg gyfoes ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Gaillimh (Galway). Hi yw awdur Briathra, Béithe agus Banfhilí (An Clóchomhar, 2008), sef astudiaeth gymharol o farddoniaeth Nuala Ní Dhomhnaill ac Eavan Boland, a golygydd y gyfrol Filíocht chomhaimseartha na Gaeilge (Cois Life, 2010), sy’n gasgliad o erthyglau gan amryfal awduron ar theori feirniadol a barddoniaeth gyfoes Wyddeleg. Mae hefyd yn gyd-olygydd y cyfnodolyn academaidd Léann. Rióna oedd y prif ymchwilydd Gwyddeleg ar brosiect ‘The Representation of Jews in Irish Literature’ a noddwyd gan yr AHRC. Yn 2018 sicrhaodd arian ymchwil sylweddol fel rhan o gynllun nodedig Gwobrau Llawryfog Cyngor Ymchwil Iwerddon, a hi yw Prif Ymchwilydd y prosiect ‘Human Rights and Modern Irish Poetry’. Mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y prosiect amlddisgyblaethol Aistriú: crossing territories, languages and artforms sy’n cael ei ariannu fel rhan o raglen Gaillimh (Galway) yn Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop (2020).


From pre-Indo-European to Proto-Celtic and beyond: Some of the Possible Phonetic and Phonemic Effects of Language Shifts in Central, Southern and Western Europe

Exploring phonological resemblances between languages of different genetic origin in roughly the same geographical area will not lead us to counter-propose a different genetic affiliation. The idea is that all or most of them have replaced former languages existing in their respective areas. Language shift, necessarily, results in the incorporation of a few traits from the language replaced into the new one replacing it. This substratum phenomenon is well known in the context of language shift and has been extensively researched. When and if we are able to identify specific linguistic traits (the more specific the better) that imply neat and significant divergence between particular languages and other languages of their respective families, it could be indicative that these traits in particular were triggered by some characteristics of the languages they geographically replaced. If more than one language group in the same geographical area share some of these traits, there is a greater possibility that something discernible relating to the replaced language of that area has been left behind and that we might be able to glean indirect information about some of the characteristics of the language(s) once spoken there and later replaced. In this presentation we will be exploring how the effects of the shift to Proto-Celtic from an unknown pre-Indo-European language (or languages) could have affected Proto-Celtic, and also how the shift to late Latin from various Celtic dialects could have affected Western Romance languages. We also aim to demonstrate how the substratum phenomenon could have implications about our views concerning the historical geographic position of different languages; Basque, for example – or lost languages with phonetic similarities to Basque, not necessarily genetically related to it – sharing borders with Celtic, Lusitanian, Italic and other languages or language groups (even Germanic?).

Juan-Luis García-Alonso

Juan-Luis García-Alonso

Mae Juan-Luis wedi bod yn Athro Groeg yn Adran Ieitheg Glasurol Prifysgol Salamanca er 2002. Mae hefyd wedi ysgwyddo amrywiol gyfrifoldebau eraill yn Salamanca, yn eu plith Ysgrifennydd Academaidd y Gyfadran Ieitheg (2004–2010), Is-Ddeon Cysylltiadau Rhyngwladol a Chydlynydd Erasmus y Gyfadran Ieitheg (2010–2012) a Chyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Barhaus (2014–2018). Yn ystod blynyddoedd cynnar ei yrfa bu’n ysgolor ar ymweliad ac ymchwilydd mewn nifer o brifysgolion, gan gynnwys Coleg y Drindod Dulyn (1988–9), lle dechreuodd ymchwilio i’r ieithoedd Celtaidd, Rhydychen (1991–6) a Harvard (1991–4), dau sefydliad lle gosodwyd sylfeini ei draethawd PhD a lle cafodd ei brofiad cyntaf o ymchwil ôl-ddoethuriaethol. Dyfarnwyd iddo radd PhD (Salamanca, 1993) mewn Ieitheg Glasurol ac Ieithyddiaeth Indo-Ewropeaidd ac mae ei ymchwil yn parhau i gael ei ysbrydoli gan ddulliau rhyngddisgyblaethol cadarn. Ac yntau’n ysgolhaig ym maes yr Ieithoedd Indo-Ewropeaidd Hynafol (yn arbennig Celtibereg), bu i onomasteg ran ganolog yn ei ymchwil ieithyddol ac arweiniodd hynny at ymwneud â meysydd eraill megis Archeoleg, Hen Hanes a Hanes Gwyddoniaeth. Yn sgil ei waith ar Claudius Ptolemy y mae wedi magu diddordeb yng ngwybodaeth y Groegwyr gynt am ddaearyddiaeth ac astronomeg ac yn y modd yr adlewyrchir hynny mewn llenyddiaeth, yn ogystal ag yn addysg ac ymchwil gwyddonol Y Dwyrain Groegaidd. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae La Península Ibérica en la Geografía de Claudio Ptolomeo (Vitoria, 2003) a’r cyfrolau canlynol a olygwyd ganddo, Continental Celtic Word Formation: Onomastic Data (Salamanca, 2013) a Celtic and Other Languages in Ancient Europe (Salamanca, 2008). Un o’i gyhoeddiadau mwyaf diweddar yw ‘La soledad del vasco’ a ymddangosodd yn Studia Philologica et Diachronica in Honorem Joaquin Gorrochategui. Indoeuropaea et Palaeohispanica, José María Vallejo, Iván Igartúa y Carlos García Castillejo (goln.), Anejos de Veleia Minor, 35 (Vitoria, 2018), 127–146. Ar hyn o bryd, Juan-Luis yw Prif Ymchwilydd y prosiect Erasmus+ KA2 CBHE XCELING (Tuag at Ragoriaeth mewn Ieithyddiaeth Gymwysiedig), 2017–2020, ac er 2012 y mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Minos.


Posibiliadau Llên Plant

Gellid tybio mai dianc i fyd hudol y dychymyg a wna’r ysgolhaig sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth plant. Wedi’r cyfan, gall ymdrochi yn swyn a chyfaredd llenyddiaeth â’i bryd ar ddenu darllenwyr sydd eto’n ddigon ifanc i brofi’r syndod a gweld y wyrth. Ond dengys y papur hwn fod astudio llenyddiaeth plant, mewn gwirionedd, yn clymu’r ymchwilydd yn sicr at bethau’r byd hwn. Mae’r hyn y mae pob cenhedlaeth yn ei thro yn ei ddweud wrth blant, a’r dull o fynegi hynny, ynghlwm wrth gysyniadau’r oes ynghylch plentyndod a’r normau diwylliannol a chymdeithasol y disgwylir i blant eu mabwysiadu. Yn achos llenyddiaeth plant yn yr ieithoedd Celtaidd, mae’r normau hynny, ynghyd ag amodau’r diwydiant cyhoeddi i blant, hefyd wedi eu siapio gan ffactorau’n gysylltiedig â’u cyd-destun lleiafrifol. Ar y naill law, gall diffyg adnoddau a buddsoddiad gyfyngu ar yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni. Ond ar y llaw arall, gall testunau i blant mewn iaith leiafrifol (a hwythau’n aml y tu hwnt i sylw’r brif ffrwd lenyddol) gyflwyno bydolwg amgen i blant sy’n mynd i’r afael â hunaniaethau ieithyddol a diwylliannol amrywiol. Gall astudiaethau llenyddiaeth plant, felly, roi’r cyfle inni archwilio’n feirniadol y modd y lleolir y plentyn yn y disgwrs ynghylch iaith a hunaniaeth. Drwy fanylu ar enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg i blant dros y ganrif a hanner ddiwethaf, bwriad y papur hwn fydd amlygu’r potensial hwnnw gan ddangos sut y mae testunau i ddarllenwyr ifainc yn ymateb i’r presennol er mwyn dadlennu posibiliadau’r dyfodol.

Siwan Rosser

Siwan Rosser

Mae Siwan yn Uwch-Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ennill graddau MPhil a PhD yno am astudiaethau beirniadol ar lenyddiaeth boblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ffrwyth y prosiectau ymchwil hynny yw ei chyfrolau ar Y Ferch ym Myd y Faled (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005) a Jonathan Hughes: Bardd Pengwern (Barddas, 2007). Bellach, mae gwaith ymchwil Siwan yn canolbwyntio ar y modd y mae plentyndod, rhywedd a chenedligrwydd yn cael eu dychmygu a’u mynegi mewn llenyddiaeth Gymraeg i blant. Mae ei chyhoeddiadau yn y maes hwn yn cynnwys astudiaethau ar gyfieithu, hunaniaeth, dwyieithrwydd a chyfnewid côd mewn ffuglen a barddoniaeth ar gyfer plant a phobl ifainc. Bydd ei monograff nesaf yn archwilio’r modd y crëwyd disgwrs newydd am blant, ac ar eu cyfer, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hi hefyd yn ymddiddori yn y modd y mae plant heddiw yn ymgysylltu â’r byd llyfrau ac yn 2016–17 comisiynwyd Siwan i gynnal Arolwg o Lyfrau Cymraeg i Blant a Phobl Ifainc ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adroddiad terfynol yn ymdrin â dadleuon cyfredol ynghylch perthynas darllen er pleser, caffael iaith a ffurfio hunaniaeth mewn cyd-destun ieithyddol lleiafrifol ac mae’r argymhellion bellach yn llywio strategaeth y Cyngor ar gyfer cefnogi a hyrwyddo llyfrau plant yn y Gymraeg. Mae Siwan hefyd yn brif olygydd ar y cyfnodolyn Llên Cymru a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ac yn Gadeirydd ar Adran Diwylliant y 18–19g, Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Cymru. Un o’i phrif ddyletswyddau yn Ysgol y Gymraeg yw gofalu am y radd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a ddysgir yno ac ar hyn o bryd mae’n cyfarwyddo myfyrwyr PhD ym maes llenyddiaeth plant ddarluniadol ac agweddau tuag at y gorffennol yn llên y ddeunawfed ganrif.


Feelin’ Groovy: Interdisciplinary perspective on the origin, nature, and uses of the ogham script

… Invoke my name!
Place your fingers
In the ice-cold notches
Hear me speak …

(From ‘Ogham’, by Susan Connelly,
The Poetry Ireland Review, 68 (Spring 2001), 83-84.)

Ogham is known to Celtic scholars primarily as the vehicle for the earliest evidence for the Irish language. Celticists tend, however, to have a low opinion of the script itself, typically dismissing it as ‘cumbersome’, ‘crude’, and ‘strange’. This is a misapprehension. Viewed in the wider context of historical writing systems, ogham is, in fact, something of a marvel: a radical departure from the scripts which inspired it, brilliant in its practical simplicity, yet intellectually sophisticated.

The ingeniousness of ogham becomes evident when we widen our gaze beyond the fifth-, sixth- and seventh-century monumental stone pillars which dominate the archaeological record, and take in the script’s diverse applications throughout its entire period of use, starting perhaps as early as the second or third century AD (the ‘prehistory’ of ogham) and continuing to the dawn of antiquarian interest in the eighteenth century. This requires critical attention to the too-often overlooked examples found on diverse media other than stone, in and beyond Ireland, and to the various references to ogham inscriptions in early Irish literature. It also requires an appreciation that to write and read ogham was not an abstract process but an embodied experience.

From these perspectives it becomes easier to gain traction on some fundamental questions which have hitherto remained unanswered: Why was ogham invented? What was it used for? How widespread was ogham literacy? Why does the script look the way it does? Why does it read vertically? Why is the order of the letters so different from the standard alphabet? The result is a new appreciation of just how special is ‘virgular quinquecostate ogham writing’ (James Joyce Ulysses ch 17.771-3).

Katherine Forsyth

Katherine Forsyth

Cafodd Katherine Forsyth ei magu yng ngogledd-ddwyrain yr Alban lle y cafodd ei chyfareddu gan drigolion yr ardal yn yr oesoedd canol cynnar – y Pictiaid – a chan eu cerfluniau carreg rhyfeddol. Ymrodd ymhellach i’r diddordeb hwn ym Mhrifysgol Caergrawnt (yr Adran Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg) ac yna ym Mhrifysgol Harvard lle yr enillodd radd PhD mewn Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd am draethawd ar arysgrifau Ogam yr Alban. Ar ôl bod yn ysgolor Rhŷs yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac yn gymrawd ymchwil yng Ngholeg Santes Hilda, Rhydychen, a Choleg Prifysgol Llundain, symudodd i Adran Gelteg a Gaeleg Prifysgol Glasgow lle y bu’n dysgu er 1998. Mae Katherine wedi cyhoeddi ar amryfal agweddau yn ymwneud â’r Pictiaid ac ar gerflunwaith ac arysgrifau yn yr Alban ac Iwerddon, a hynny ar sail gwaith maes yno ynghyd ag ar Ynys Manaw ac yn Llydaw. Mae ei hymchwil yn ymdrin â thestunau fel rhan o ddiwylliant materol ac ysgrifennu fel gweithred gymdeithasol a diwylliannol. Mae ganddi ddiddordeb neilltuol yn nharddiad a datblygiad yr wyddor ogam ac yn system symbolau’r Pictiaid. Yn 2008 cyhoeddodd Studies on the Book of Deer, a oedd yn ffrwyth prosiect ymchwil cydweithredol eang ar y llawysgrif hynaf hon o dir mawr yr Alban. Mae hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau rhyngddisgyblaethol o gemau bwrdd Celtaidd. Dros y blynyddoedd mae Katherine wedi bod yn ymgynghorydd academaidd mewn perthynas ag arddangos cerflunwaith o’r oesoedd canol cynnar mewn nifer o safleoedd, gan gynnwys Iona, ac mae wedi cydweithio ag artistiaid cyfoes sy’n dymuno dehongli celf hynafol yr Alban. Mae’n gyn-gadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cerrig Nadd yr Alban, ac ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect o’r enw Spoken Here: Mapping Gaelic Glasgow, sy’n ymwneud â’r cyhoedd ac yn archwilio treftadaeth Aeleg y ddinas. Mae hefyd, er 2016, wedi bod yn Gyfarwyddwraig Canolfan Hyfforddiant Doethuriaethol yr AHRC mewn Ieithoedd Celtaidd.