Cadeirydd: Llŷr Titus Hughes
Treuliodd John Rowlands (1938-2015), y nofelydd a'r beirniad llenyddol dylanwadol, y rhan helaethaf o’i yrfa yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd ef a’i wraig yn digwydd bod ym Mhrâg yn Awst 1968 pan oresgynnwyd Tsiecoslofacia gan wledydd Cytundeb Warsaw er mwyn rhoi diwedd ar Wanwyn Prâg, proses o ryddfrydoli’r gyfundrefn Gomiwnyddol. Hyn oedd y sbardun iddo ysgrifennu ei chweched nofel, Arch ym Mhrâg (1972).
Mae’r nofel uchelgeisiol hon yn darlunio ymateb dau ddyn ifanc o Tsiecoslofacia a dau ddyn ifanc o Gymru i’r goresgyniad ac i’r sefyllfa wleidyddol ar y pryd. Mae'n dangos y gwahaniaeth rhwng safbwyntiau trigolion Prâg ac ymwelwyr â’r ddinas, ynghyd â’r gwahaniaeth barn rhwng pobl sy’n rhannu’r un cefndir a’r un safbwynt sylfaenol. Trafodir pynciau sy’n amserol heddiw, megis dyletswydd rhywun at ei genedl, a rhan yr unigolyn o fewn y genedl, mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus.
Dyma nofel wahanol iawn i rai blaenorol Rowlands: mae'n nofel wleidyddol ar gynfas eang yn hytrach na stori am un unigolyn yn delio ag argyfwng dirfodol personol. Roedd felly'n gam mawr ymlaen yng ngyrfa Rowlands fel nofelydd. Cymerwyd camau breision o ran ieithwedd ac arddull hefyd, a defnyddir technegau Ôl-fodernaidd, blaengar sy'n cael eu cysylltu fwy â'r awduron iau a fu’n fyfyrwyr i Rowlands yn dilyn cyhoeddi’r nofel hon.
Bydd y papur yn rhoi trosolwg o’r nofel a’r ymateb iddi, a fu, o safbwynt y feirniadaeth lenyddol, yn ffyrnig iawn mewn un achos.
Canolbwyntir yn aml ar yr ochr ysgfan, chwareus, herfeiddiol o waith Gwyn Thomas, ond wrth roi gormod o sylw i’r elfen hon, y mae perygl y cawn ein gadael â chamargraff o werth ei farddoniaeth, oherwydd ys dywed Bobi Jones, ‘yn y cyfanwaith cytbwys y ceir llawnder haeddiannol fawrhydig ei greadigaeth’. Mae'r papur hwn yn cychwyn ar y gwaith o unioni’r fantol, gan ymdrin â thema gwbl ganolog yng ngwaith y bardd nad yw wedi dderbyn y sylw haeddiannol hyd yma – angau a meidroldeb. Bydd hyn yn fodd o ddyfnhau’n gwerthfawrogiad o yrfa farddol yr un a elwid gan Llion Jones yn ‘fardd mwyaf arwyddocaol ei genhedlaeth’. Trwy edrych yn fanwl ar dair enghraifft o gerddi gobeithiol, a thynnu ar groestoriad eang o gerddi wrth wneud hynny, amlygir y prif gysuron a gynnig Gwyn Thomas i’w ddarllenwyr i’w cysuro yn wyneb angau – cylch bywyd, adfywiad natur, plant, Cristnogaeth a choffadwriaeth - ynghyd â’r dyfeisiau a ddefnyddia i ddarbwyllo ei ddarllenwyr o’u hapêl. Crybwyllir wedyn gerddi sydd yn gwrthddweud neu danseilio’r gobeithion hyn er mwyn ystyried effaith anghysonder y safbwyntiau sydd yn ei waith ar ddilysrwydd gwaelodol y cysur a gynnig i ni yn wyneb ein meidroldeb. Cynnig amddiffyniad o’r elfen obeithiol yng ngwaith y bardd a wneir yn y papur yn y bôn, gan ddadlau mai cryfder yn hytrach na gwendid yw anwadalrwydd ei gysuron.