Cadeirydd: Michaela Jacques
Cydnabuwyd pwysigrwydd y babaeth ar gyfer tywysogion Gwynedd ac eraill, megis yr urddau crefyddol, yng Nghymru’r canol oesoedd cyn goresgyniad Edward I (1272–1307) ers peth amser, ond ni fu trafod am bwysigrwydd Rhufain yng ngwaith y beirdd o’r un cyfnod. Priodolir pwysigrwydd cynyddol y babaeth i wladwriaethau Ewrop yn y canol oesoedd i’r cyfnod wedi diwygio’r sefydliad oddeutu canol yr unfed ganrif ar ddeg ymlaen. Bu’n destun dadl, fodd bynnag, pa mor bellgyrhaeddol y bu effeithiau’r diwygiad hwn ar wladwriaethau a chymdeithasau ar ymylon Ewrop ymhell o ganolfannau’r diwygiad. Roedd gan y beirdd le amlwg yng nghymdeithas Cymry’r cyfnod; neilltuwyd hawliau’r beirdd yn y Gyfraith, roedd rhai beirdd yn rhan o fiwrocratiaeth Gwynedd a chymerodd sawl bardd fantais o’i swyddogaeth gyhoeddus er mwyn cynghori’r tywysogion. Dengys nifer o’r beirdd bod ganddynt ddealltwriaeth o gysyniadau diwinyddol a defosiynol cyfredol. Teg felly yw holi beth all cerddi’r beirdd ei ychwanegu at ein gwybodaeth o’r berthynas rhwng y Cymry a’r babaeth? Trafodir y cyfeiriadau at Rufain a’r babaeth yng nghanu’r ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg, gan ystyried pwysigrwydd pererindod, y saint, yn enwedig Pedr, a swyddogaeth Rhufain yn y canu i’r tywysogion. Ystyrir y cyfyngiadau ar y defnydd y gellid ei wneud o’r cerddi, a chynhigir gwerthusiad o gyfraniad y beirdd i’n gwybodaeth o’r berthynas rhwng y Cymry a’r babaeth hyd y drydedd ganrif ar ddeg.
To distinguish between persons who had identical or similar names medieval Welsh communities often bestowed nicknames (llysenwau). Two of the most interesting examples of such nicknames are 'Sais' (meaning 'English') and 'Gwyddel' (meaning 'Irish'). These were frequently combined with distinctively Welsh personsal names to produce names like Hywel Sais or Ieuan Wyddel. This onomastic phenomenon provides a tool to explore medieval Welsh ideas about ethnic identities. Comparative prosopographical analysis of the distribution of these two nicknames over geographic regions, chronological periods, and social classes reveals Welsh attitudes about these ethnic labels during a period when Welsh identity and the labels used for it were changing. The period 1050 to 1450 includes a generation before the 1066 Norman invasion of Britain, the English military conquest of all of Wales, and the aftermath of the uprising of Owain GlynDwr. In some individual cases it is possible to discern the specific reasons why particular persons had these nicknames. Although the names listed in medieval documents are preponderantly male, there are a few examples of women with the nicknames 'Saesnes' and 'Gwyddeles.'