Sesiwn 105: Ystafell 9
Performing the past in medieval Wales

Noddir gan: Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig

Cadeirydd: Georgia Henley

Nid yw Cymru’n bod namyn fel rhan o … Loegr?: Asser a Hanes Cymru

Rebecca Thomas
Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, University of Cambridge

Gan dynnu ar ddyfyniad enwog Saunders Lewis am bwysigrwydd cyd-destun Ewropeaidd Cymru, mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio i ganfyddiad un awdur o'r nawfed ganrif o hanes Cymru a'i pherthynas arbennig â Lloegr. Asser, mynach o Dyddewi a ysgrifennodd fywgraffiad y brenin Alfred Mawr yn 893, yw'r awdur dan sylw, ac rwyf am edrych yn benodol ar fel y mae'r bywgraffiad hwn yn ymdrin â hanes Cymru. Er bod nifer helaeth o gyfeiriadau at Gymru yn y gwaith, prinnach yw'r disgrifiadau o hanes Cymru nad ydynt yn canolbwyntio ar berthynas Cymru â Lloegr. Yn wir, yng ngwaith Asser, mae Cymru a Lloegr yn ymddangos fel petaent wastad wedi eu clymu wrth ei gilydd, sy'n ystyriaeth bwysig gan fod Asser yn cyflwyno Alfred fel arweinydd holl Gristnogion Ynys Prydain, arweinydd y dylai'r Cymry fod yn ffyddlon iddo. Mae'r cyflwyniad yn canolbwyntio ar y agwedd hon ar waith Asser, gan edrych ar y ffynonellau a ddefnyddiodd ac fel y newidiodd (ac, yn bwysicach o bosibl, y cadwodd) hanes Cymru fel y'i ceid yn y rheiny. Bydd hyn yn cynnig cipolwg newydd ar waith Asser a thaflu rhagor o oleuni ar ddadleuon ynghylch hunaniaeth a gwleidyddiaeth Gymreig yn y 9fed ganrif.

Ystrad Fflur a’r Arglwydd Rhys: cofnodi’r presennol yn y Deheubarth

Owain Wyn Jones
Prifysgol Bangor

Cynhyrchwyd nifer o destunau yn y blynyddoedd oddeutu marwolaeth yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth yn 1197. Tueddai'r rhain fod yn Lladin, fel y marwnadau i Rhys, ond mae rhai o'r defnydd bellach ddim ond yn bodoli mewn cyfieithiadau Cymraeg Canol, megis y fersiynau o'r cronicl Brut y Tywysogion. Gellir cysylltu rhai o'r testunau yma, yn enwedig y cronicl sy'n sail i'r Brut, gydag Ystrad Fflur, abaty yr oedd Rhys ei hun yn noddi. Bydd y drafodaeth yma yn ystyried natur a phwrpas y testunau yma, yn enwedig y croniclau a'r marwnadau i Rhys, gan geisio ffocysu ar gwestiynau am gynulleidfa, noddiant a pherfformiad. Pwy oedd yn noddi, yn darllen neu wrando ar, ac yn elwa o gynhyrchu, testunau o'r fath? Mae'n hynod o anodd i ateb gyda sicrwydd cwestiynau fel rhain yn y Gymru Ganoloesol, ond trwy ffocysu yn benodol ar y cyfnod ansefydlog wnaeth ddilyn marwolaeth Rhys ac hefyd ceisio tuag at gymhariaeth eang ar lefel Ewropeaidd, y gobaith yw i gynnig rhai atebion posib.

Looking back from the twelfth century: Madog ap Maredudd, Cynddelw Brydydd Mawr, and the recreation of early medieval Powys

Ben Guy
Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, University of Cambridge

What was ‘Powys’ in the Middle Ages? The question is more difficult to answer than one might initially assume. Our evidence for Powys in the early Middle Ages is fragmentary, self-contradictory, and resistant to interpretation. Much more evidence survives from the twelfth century. In his 2016 monograph, David Stephenson cast welcome light on the activities of the kings, princes, and lords associated with Powys in this later period. A question less directly addressed in Stephenson’s work, though, concerns the perceived nature of the link between the twelfth-century rulers of Powys (who primarily belonged to a dynasty descended from an eleventh-century king of Gwynedd, Bleddyn ap Cynfyn) and the early medieval kingdom of Powys. It is the contention of this paper that the view of the early medieval kingdom of Powys propounded in twelfth-century literature is not a passive reflection of widespread collective memory regarding the early history of the area, but rather the product of a deliberate policy of historical reorientation pursued by the powerful twelfth-century king of Powys Madog ap Maredudd (d. 1160). During his reign, Madog was confronted with the problem of how to provide historical legitimacy for a kingdom that had not existed only two generations earlier. The problem was addressed with the help of Madog’s court poet Cynddelw Brydydd Mawr, who helped Madog to remould early medieval Powys in the image of Madog’s new twelfth-century realm, casting Madog’s kingdom as the natural continuation of the ancient realm.