Sesiwn 101: Ystafell 5
Y Gymraeg: gwahaniaethau daearyddol ac arferion dysgwyr / Welsh: geographical variances and learners' habits

Cadeirydd: Iwan Wyn Rees

Patterns of pluralization in northern, southern and Patagonian Welsh

Deborah Arbes
Universität Bremen

The proposed paper introduces the first part of a PhD project which analyses the system of grammatical number in contemporary spoken Welsh in three communities, which are located in north and south Wales and in the diasporic community in Patagonia. For this presentation I will focus on nouns which have multiple ways to form the plural, e.g. llythyr ‘letter’, llythyr-au or llythyr-on ‘letters’. Stolz (2008) has identified more than 500 nouns with multiple plurals in the dictionaries Geiriadur Mawr and Geiriadur Prifysgol Cymru. An analysis of how nouns with multiple possible plural forms have emerged historically has been put forth by Nurmio (2010). The proposed paper aims at demonstrating what patterns of pluralization are used by speakers in the three regions nowadays. The data I present was collected in August 2018 through recorded interviews with 29 fluent speakers of Welsh, who live in and around Cardiff and Caernarfon. Additionally, the results are compared with the findings from a field research in the Welsh community in Chubut, Argentina in 2017. The paper discusses which nouns are more likely than others to have multiple plurals, what social variables play a role in the choice of different plural suffixes, and what patterns of pluralization are used by New Speakers and native speakers from different communities.

Astudiaeth o ynganiad llafariad unsain Cymraeg gogleddol gan oedolion sy’n dysgu'r iaith

Meinir Olwen Williams
Prifysgol Bangor

Nod strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg i filiwn ac mae’n pwysleisio rôl hanfodol y sector Cymraeg i Oedolion yn y broses. Ond gall anhawster gydag ynganu arwain at ddiffyg hyder ymhlith dysgwyr a bod yn rhwystr o ran cymhathu i gymunedau ar sail acen ‘estron’ (Mac Giolla Chríost et al., 2012).

Yn yr astudiaeth hon ystyrir data gan 16 oedolyn sy’n dysgu Cymraeg ac yn byw yng ngogledd Cymru. Dadansoddir eitemau yn cynnwys y llafariaid unsain byr a hir a geir yng Nghymraeg nodweddiadol y gogledd. Er bod seiniau tebyg i’w cael yn iaith gyntaf y dysgwyr (Saesneg) mae gwahaniaethau o ran hyd ac ansawdd y llafariaid yn cyfrannu at acen estron. Cwblhawyd sawl tasg (enwi lluniau, sgyrsiau byrion, darllen rhestr o eiriau) gan y cyfranogwyr. Echdynnwyd eitemau yn cynnwys y llafariaid a dadansoddwyd nodweddion acwstig i edrych ar wahaniaethau o ran ansawdd a hyd.

Awgryma’r canlyniadau bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y ffyrdd yr ynganir llafariad gan siaradwyr brodorol a dysgwyr. Awgrymir hefyd y gall nifer o ffactorau’n effeithio ar ynganiad llafariad unsain gan gynnwys ieithoedd eraill a siaredir gan y dysgwr a lefel cyrhaeddiad y dysgwr.

Trafodir y canlyniadau hyn yng nghyd-destun yr anawsterau a wynebir gan ddysgwyr sy’n cymhathu i’r gymuned ac angen magu hyder yn yr iaith. Ystyrir y data fel peilot a fydd yn amlygu cyfeiriadau pellach i ymchwil ynglŷn ag ynganiad dysgwyr a hyfforddiant ynganu.