Cadeirydd: Gareth Evans-Jones
A oes modd darganfod sut beth oedd y profiad o ddarllen nofelau Cymraeg yn negawdau clo’r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan fo’r dystiolaeth uniongyrchol – ar ffurf beirniadaeth ac adolygiadau a chofnodion mewn hunangofiannau, er enghraifft – mor brin? Drwy ystyried, ymhlith pethau eraill, y diwylliant materol a chrefyddol y troent ynddo, y rhagdybiaethau a goleddent am ymddygiad ac uchelgais a theyrngarwch a chwaeth, a’r hyn a gredent am berthynas y Gymraeg a’r Saesneg, rhoddir cynnig yma ar fapio habitus neu gynefin darllenwyr gwreiddiol ffuglen Gymraeg yn niwedd Oes Fictoria.
Rhwng 1939 a 1946 roedd llywodraeth Prydain ar bigau’r drain yn sgil yr Ail Ryfel Byd. Un ‘broblem’ a’i hwynebai oedd gogledd Cymru a ystyrid yn nythfa i genedlaetholwyr eithafol yr oedd peryg iddynt gynghreirio gyda gweriniaethwyr Gwyddelig a hwyluso goresgyniad Prydain gan y Drydedd Reich o du Iwerddon. Credid mai un ffordd o wrthweithio’r bygythiad hwn oedd cryfhau ymlyniad y Cymry wrth yr achos Prydeinig a hynny drwy glosio’r berthynas rhwng y Frenhiniaeth a’r Dywysogaeth. Ymhlith y camau a ystyriwyd oedd sefydlu’r Dywysoges Elizabeth yn llywydd ar fudiad yr Urdd ac yn Gwnstabl Castell Caernarfon. Yn ogystal, bu symudiad ar droed i’w sefydlu’n Dduges Cymru. Yn gyfansoddiadol, awgrymwyd mai’r ateb fyddai rhoi i Gymru, fel yr Alban, ei hysgrifennydd gwladol ei hun. Yn y diwedd, ni ddaeth fawr ddim o’r cynlluniau hyn ar y pryd, ond fe gafodd y dywysoges 21 oed ei hurddo’n aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946. Bydd y papur hwn yn codi cwr y llen ar natur y berthynas rhwng y llywodraeth ganol a Chymru yn ystod cyfnod o ryfel a goblygiadau hynny’n ddiweddarach. Bydd yn edrych yn benodol ar y modd y ceisiwyd defnyddio sefydliadau diwylliannol i ddibenion gwleidyddol. Bydd hefyd yn ystyried y rhan a chwaraeodd aelodau amlwg o’r sefydliad Cymreig yn yr hanes, dynion fel Thomas Jones, Ifan ab Owen Edwards a Cynan, yn ogystal â rôl yr Ysgrifennydd Cartref Herbert Morrison, Llafurwr a wasanaethodd yn Llywodraeth Glymblaid Winston Churchill.
Yn y papur hwn byddir yn ailymweld â ‘cherdd fach seml Waldo Williams’, chwedl Saunders Lewis, sef ‘Wedi’r Canrifoedd Mudan’ (1948). Cerdd yw hon a esgorodd ar drafodaethau brwd ymhlith beirdd a beirniaid, fyth er pan ddefnyddiwyd hi gan Saunders Lewis, yn Baner ac Amserau Cymru yn 1950, fel modd o ateb haeriadau o du J.M. Edwards a T. Glynne Davies ynglŷn â ‘diffyg moderniaeth’ barddoniaeth Gymraeg y cyfnod. Cafwyd dadansoddiad manwl o’r gerdd gan Gruffydd Aled Williams mewn ysgrif yn 1972, a chyfrannwyd at y drafodaeth arni, y tro hwn ar lefel destunol, gan J. Eirian Davies mewn ysgrif yn Barddas yn 1989. Yn 2014 cynhwysodd Alan Llwyd a Robert Rhys, yn y nodiadau i’w golygiad Waldo Williams: Cerddi 1922–1970, destun drafft cynnar tra diddorol o’r gerdd, a ddarganfuwyd yng nghasgliad David Williams, nai i’r bardd. Un o brif gyfraniadau ysgrif Gruffydd Aled Williams yw’r sylw a rydd i’r hyn a wêl fel perthynas ryngdestunol ‘Wedi’r Canrifoedd Mudan’ â barddoniaeth Henry Vaughan, ac yn benodol â ‘[th]rosiadau golueni’ cerddi’r Siluriad – trosiadau sydd, fe ddadleuir gan yr awdur, yn ddylanwad allweddol ar ddelweddau Waldo Williams yn y gerdd hon. A chymryd hyn oll fel cyd-destun, fy mwriad yn y papur hwn yw cynnig gwedd newydd ar ‘Wedi’r Canrifoedd Mudan’, gan ddadlau, er cryfed yw’r cyswllt â Henry Vaughan, mai cerdd benodol gan fardd arall a ysgrifennai yn Saesneg fu’r prif gatalydd llenyddol yn achos testun, delweddaeth a syniadaeth y gerdd. Dolen gyswllt yw hon a fydd, fe obeithir, yn cynnig dealltwriaeth lawnach inni o ideoleg cerdd fawl Waldo Williams i dri o’r merthyron Catholig, a hefyd o ‘brosiect’ barddol Waldo yn gyffredinol, wrth iddo gynnig dadansoddiad yma – yn dawel ond eto’n gystwyol – o’n hunaniaeth grefyddol-ddiwylliannol.