Gellid tybio mai dianc i fyd hudol y dychymyg a wna’r ysgolhaig sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth plant. Wedi’r cyfan, gall ymdrochi yn swyn a chyfaredd llenyddiaeth â’i bryd ar ddenu darllenwyr sydd eto’n ddigon ifanc i brofi’r syndod a gweld y wyrth. Ond dengys y papur hwn fod astudio llenyddiaeth plant, mewn gwirionedd, yn clymu’r ymchwilydd yn sicr at bethau’r byd hwn. Mae’r hyn y mae pob cenhedlaeth yn ei thro yn ei ddweud wrth blant, a’r dull o fynegi hynny, ynghlwm wrth gysyniadau’r oes ynghylch plentyndod a’r normau diwylliannol a chymdeithasol y disgwylir i blant eu mabwysiadu. Yn achos llenyddiaeth plant yn yr ieithoedd Celtaidd, mae’r normau hynny, ynghyd ag amodau’r diwydiant cyhoeddi i blant, hefyd wedi eu siapio gan ffactorau’n gysylltiedig â’u cyd-destun lleiafrifol. Ar y naill law, gall diffyg adnoddau a buddsoddiad gyfyngu ar yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni. Ond ar y llaw arall, gall testunau i blant mewn iaith leiafrifol (a hwythau’n aml y tu hwnt i sylw’r brif ffrwd lenyddol) gyflwyno bydolwg amgen i blant sy’n mynd i’r afael â hunaniaethau ieithyddol a diwylliannol amrywiol. Gall astudiaethau llenyddiaeth plant, felly, roi’r cyfle inni archwilio’n feirniadol y modd y lleolir y plentyn yn y disgwrs ynghylch iaith a hunaniaeth. Drwy fanylu ar enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg i blant dros y ganrif a hanner ddiwethaf, bwriad y papur hwn fydd amlygu’r potensial hwnnw gan ddangos sut y mae testunau i ddarllenwyr ifainc yn ymateb i’r presennol er mwyn dadlennu posibiliadau’r dyfodol.
Mae Siwan yn Uwch-Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ennill graddau MPhil a PhD yno am astudiaethau beirniadol ar lenyddiaeth boblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ffrwyth y prosiectau ymchwil hynny yw ei chyfrolau ar Y Ferch ym Myd y Faled (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005) a Jonathan Hughes: Bardd Pengwern (Barddas, 2007). Bellach, mae gwaith ymchwil Siwan yn canolbwyntio ar y modd y mae plentyndod, rhywedd a chenedligrwydd yn cael eu dychmygu a’u mynegi mewn llenyddiaeth Gymraeg i blant. Mae ei chyhoeddiadau yn y maes hwn yn cynnwys astudiaethau ar gyfieithu, hunaniaeth, dwyieithrwydd a chyfnewid côd mewn ffuglen a barddoniaeth ar gyfer plant a phobl ifainc. Bydd ei monograff nesaf yn archwilio’r modd y crëwyd disgwrs newydd am blant, ac ar eu cyfer, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hi hefyd yn ymddiddori yn y modd y mae plant heddiw yn ymgysylltu â’r byd llyfrau ac yn 2016–17 comisiynwyd Siwan i gynnal Arolwg o Lyfrau Cymraeg i Blant a Phobl Ifainc ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adroddiad terfynol yn ymdrin â dadleuon cyfredol ynghylch perthynas darllen er pleser, caffael iaith a ffurfio hunaniaeth mewn cyd-destun ieithyddol lleiafrifol ac mae’r argymhellion bellach yn llywio strategaeth y Cyngor ar gyfer cefnogi a hyrwyddo llyfrau plant yn y Gymraeg. Mae Siwan hefyd yn brif olygydd ar y cyfnodolyn Llên Cymru a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ac yn Gadeirydd ar Adran Diwylliant y 18–19g, Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Cymru. Un o’i phrif ddyletswyddau yn Ysgol y Gymraeg yw gofalu am y radd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a ddysgir yno ac ar hyn o bryd mae’n cyfarwyddo myfyrwyr PhD ym maes llenyddiaeth plant ddarluniadol ac agweddau tuag at y gorffennol yn llên y ddeunawfed ganrif.