Writer as righter? Irish-language poetry and human rights ideals

Drawing on Seamus Heaney’s espousal of the “writer as righter” (2010), this paper will discuss the role of the poet in an interconnected world. Literary devices such as metaphor, allegory and metonymy are regularly employed to discuss human rights issues and concerns. The potential for use and misuse by those who wish to inform public opinion, obliges us to deepen our understanding and appreciation of literary modes of expression that can cultivate transnational solidarity or conversely, arouse suspicion of ‘dangerous others’ and incite transnational discord and conflict. What role does the contemporary Irish-language poet play in this context?

Rióna Ní Fhrighil

Rióna Ní Fhrighil

Mae Rióna’n ddarlithydd mewn llenyddiaeth Wyddeleg gyfoes ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Gaillimh (Galway). Hi yw awdur Briathra, Béithe agus Banfhilí (An Clóchomhar, 2008), sef astudiaeth gymharol o farddoniaeth Nuala Ní Dhomhnaill ac Eavan Boland, a golygydd y gyfrol Filíocht chomhaimseartha na Gaeilge (Cois Life, 2010), sy’n gasgliad o erthyglau gan amryfal awduron ar theori feirniadol a barddoniaeth gyfoes Wyddeleg. Mae hefyd yn gyd-olygydd y cyfnodolyn academaidd Léann. Rióna oedd y prif ymchwilydd Gwyddeleg ar brosiect ‘The Representation of Jews in Irish Literature’ a noddwyd gan yr AHRC. Yn 2018 sicrhaodd arian ymchwil sylweddol fel rhan o gynllun nodedig Gwobrau Llawryfog Cyngor Ymchwil Iwerddon, a hi yw Prif Ymchwilydd y prosiect ‘Human Rights and Modern Irish Poetry’. Mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y prosiect amlddisgyblaethol Aistriú: crossing territories, languages and artforms sy’n cael ei ariannu fel rhan o raglen Gaillimh (Galway) yn Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop (2020).